YR HEN LWYBRAU

'Run yn oes oesoedd yw llwybrau'r cread,
Yr un yw'r patrwm a'r un yw'r gwead;
Yr un afonydd sy'n llyfu'r ceulannau,
Yr un cysgadrwydd mewn hen, hen lannau;
Yr un yw'r patrwm a'r un yw'r gwead,
'Run yn oes oesoedd yw llwybrau'r cread.

Yr un sane gwcw, yr un blodau menyn,
Yr un aflonyddwch pan ddelo'r gwenyn;
Ar ôl pob Gwanwyn daw tes yr hafau,
Ar ôl pob Hydref daw'r llwyd aeafau;
Yr un yw'r patrwm a'r un yw'r gwead,
'Run yn oes oesoedd yw llwybrau'r cread.

Yr un yw sawr y rhosynnau cochion,
Yr un yw'r nentydd sy'n torri'n drochion,
Mae cyffro'r brithyll ar ddŵr hen lynnoedd,
Ac ias y dirgelwch mewn hen ddyffrynnoedd;
Yr un yw'r patrwm a'r un yw'r gwead,
'Run yn oes oesoedd yw llwybrau'r cread.

Yr un yw'r haul sy'n gloywi'r pellterau,
Yr un yw lleuad yr oer eangderau;
I blant y ddaear daw'r hen ddihewyd,
A beunydd beunos nid oes dim newid;
Yr un yw'r patrwm a'r un yw'r gwead,
'Run yn oes oesoedd yw llwybrau'r cread.

W. Rhys Nicholas