YN DDA IAWN O DDIM

Mae'r gwynt ar y gweundir yn hen, hen wynt,
Mae'r brwyn yno'n grwm fel yr oedden nhw gynt
Fydoedd yn ôl wedi cynnwrf y grym
A greodd y cwbwl yn dda iawn o ddim.

Mae'r môr sydd yn ysgwyd yn hen, hen fôr,
Mae'i drai o a'i lanw a llawnder ei stôr,
Mwynder ei wendon a brochi ei rym
Yn rhan o'r hyn grewyd yn dda iawn o ddim.

Mae'r lloer yn yr awyr yn hen, hen loer,
A'i golau yn unig, mor welw, mor oer,
Acw mae'n gwynnu wedi diffodd o'i grym
A wnaed yn y dechrau yn dda iawn o ddim.

Mae chwerthin a dagrau yn hen iawn, hen,
Llawenydd ac wylo, dioddefaint a gwên,
Geni a marw: ond newydd yw'r grym
Sy'n creu er y dechrau yn dda iawn o ddim.

Gwyn Thomas