CWYN Y GWYNT

Cwsg ni ddaw i'm hamrant heno,
Dagrau ddaw ynghynt.
Wrth fy ffenest yn gwynfannus
Yr ochneidia'r gwynt.

Codi'i lais yn awr, ac wylo,
Beichio wylo mae.
Ar y gwydr yr hyrddia'i ddagrau
Yn ei wylltaf wae.

Pam y deui, wynt, i wylo
At fy ffenestr i?
Dywed im, a gollaist tithau
Un a'th garai di?

John Morris-Jones