AROS A MYND

Aros mae'r mynyddoedd mawr,
Rhuo trostynt mae y gwynt;
Clywir eto gyda'r wawr,
Gân bugeiliaid megis cynt;
Eto tyf y llygad dydd,
O gylch traed y graig a'r bryn,
Ond, bugeiliaid newydd sydd
Ar yr hen fynyddoedd hyn.

Ar arferion Cymru gynt,
Newid ddaeth o rod i rod;
Mae cenhedlaeth wedi mynd,
A chenhedlaeth wedi dod.
Wedi oes dymhestlog hir,
Alun Mabon mwy nid yw,
Ond mae'r heniaith yn y tir,
A'r alawon hen yn fyw.

Ceiriog